Taith
gerdded ar hyd y Promenâd a'r
twyni tywod, cymedrol, ychydig yn bantiog.
Mannau
o ddiddordeb
Golygfeydd
o arfordir y Gogledd a'r bryniau lleol.
Asesiad
cyffredinol o berygl
Isel
mewn tywydd da, y traeth heb fod yn
ddelfrydol ar lanw uchel! Tir anwastad
ar y tywod. Angen osgoi grwynau ar
y traeth, a gofal yn y twyni tywod.
Cyfarwyddiadau
Ewch
at y promenâd ar ochr y môr
i Ganolfan y Nova gan droi i'r dde
a dilyn y promenâd tuag at y
Grand Hotel. Ewch heibio'r gwesty i
lawr i'r traeth, gan gymryd y llwybr
trwy'r twyni tywod tuag at y cwrs golff.
Dilynwch y llwybrau llai trwy'r twyni
wrth ochr y cwrs golff. Trowch yn ôl
wedi i chi gyrraedd man sydd bron gyferbyn â'r
clwb golff, a dychwelyd ar hyd yr un
llwybr, neu groesi'r twyni'n ôl
i'r promenâd. Dilynwch y promenâd
yn ôl i'r man cychwyn. Nid yw'r
daith yn ddelfrydol os am gadw cofnod
manwl o bellter, gan fod sawl amrywiad.
Ond mae'n ffordd ddewisol dymunol i'r
promenâd.