Taith
13- Lleoliad, Graig Park, Dyserth - Categori
Disgrifiad
Llwybrau
gwledig ar hyd rhodfa. Lonydd gwlad
tawel a llwybrau troed. Ychydig o dynnu
i fyny ac i lawr a rhiwiau cymedrol.
Mannau
o ddiddordeb
Taith
wledig braf yn mynd heibio lleoliad
hen gastell Diserth.
Asesiad
cyffredinol o berygl
Isel,
y llwybrau yn llithrig ar ôl
glaw – y mae o berygl angen esgidiau
addas.
Cyfarwyddiadau
Cerddwch
i’r dde wrth i chi adael y maes
parcio a dringo i fyny’r rhiw
fach hyd at bont y rheilffordd. Ewch
i fyny at y Rhodfa ac ar y bont. Dilynwch
y rhodfa tuag at Diserth nes y gwelwch
bont uwch eich pen. Trowch i’r
chwith i fyny Grisiau Lôn y Pandy.
Cerddwch i fyny’r lôn,
fe welwch leoliad yr hen gastell a’r
chwarel ar eich chwith, ewch ymlaen
nes i chi ddod at gyffordd y ffordd.
Trowch i’r chwith a chroesi i
faes parcio Graig Park. Ewch trwy’r
giât gan droi i’r cae /ochr
y bryn ar eich chwith, a dilynwch y
gwrych sy’n tyfu’n gyfochrog â’r
ffordd ar eich ochr chwith. Cerddwch
am 200m nes i chi gyfarfod â’r
llwybr gan ddychwelyd trwy’r
coed at bont y rheilffordd a’ch
man cychwyn.