Llwybr
cylch, gyda’r llwybrau troed
yn dilyn nant ac yn mynd heibio lleoliad
Baddonau hynafol a phalmentydd Rhufeinig.
Ychydig o dynnu i fyny ac i lawr a
bryn cymedrol ar ddiwedd y daith.
Mannau
o ddiddordeb
Golygfeydd
braf o’r bryniau lleol ac ardal
o ddiddordeb hanesyddol.
Asesiad
cyffredinol o berygl
Cyffredinol
Isel, ond nid oes palmant ar y ffordd
am 300m.
Cyfarwyddiadau
Dechreuwch
gerdded gan droi i’r chwith wedi
gadael y Saints a cherdded i lawr y
rhiw heibio’r Llew Coch i gyfeiriad
Roundwood. Trowch i’r dde at
lwybr y Waun (The Meadows) 50m heibio’r
ficerdy. Dilynwch y llwybr sy’n
dilyn y nant fach, cerddwch o amgylch
y caeau chwarae, dros bont y nant,
a dilyn y lôn i’r Waun
(Meadows). Trowch i’r dde a dilyn
y ffordd sy’n mynd i fyny i Lôn
St Chads ac sydd wedyn yn ymuno gyda
Rhodfa’r Tywysog. Trowch i’r
dde a cherdded i fyny i gyfeiriad Ffordd
Galltmelyd, gan droi i’r dde
eto a cherdded ar hyd Ffordd Galltmelyd,
1km. Trowch i’r dde eto wrth
yr Eglwys er mwyn dod yn ôl i’ch
man cychwynnol.
Yn
helpu dangos y ffordd
Maes
Parcio / Llwybr wrth y Meadows / Y
Meadows a’r lôn
sy’n arwain at Rhodfa’r
Tywysog.