Lleoliad, Saints Galltmelyd
Y mae amrywiaeth o lwybrau cerdded
yn cychwyn o Saints, y Clwb Ffitrwydd a Iechyd,
ar hyd gwahanol fathau o dir, tir cymedrol a thir
sy’n sialens
i’r sawl sy’n cerdded er mwyn gwella
iechyd. Gellir ymuno â’r Rhodfa o Brestatyn
i Ddiserth o gyfeiriad y Dwyrain, ac y mae nifer
o lwybrau cyhoeddus cyswllt o amgylch a thros y bryniau
lleol gan gynnwys Craig Fawr, ardal o brydferthwch
naturiol eithriadol, a Choedwig yr Esgob
(Bishops Wood)
Y mae Galltmelyd ei hun yn cynnig
llwybrau o ddiddordeb hanesyddol, yn cynnwys llwybrau
sy’n mynd heibio
Mwynfeydd Plwm Rhufeinig a Baddonau Rhufeinig. Ceir
golygfeydd ardderchog o Eryri ac Arfordir y Gogledd
ar hyd y teithiau hyn i gyd.
Ceir mynediad hwylus i’r Rhodfa sy’n
mynd o
Brestatyn i Ddiserth
|