Lleoliad, Canolfan y Nova
Mae cerdded llwybrau glan y
môr yn ffordd
ddelfrydol o gerdded i wella iechyd. Mae'r holl lwybrau
sy'n cael eu hargymell yma yn hawdd i'w dilyn, ar
y gwastad, ac yn ddiogel, felly maent yn ddelfrydol
ar gyfer y rhai sy'n dechrau cerdded.
Mae'r Promenâd a'r traeth
rhwng y Grand Hotel a Thraeth y Ffrith yn
ddelfrydol ar gyfer teithiau hunangymorth hefyd.
Er mwyn mesur cynnydd, y mae'r pellter yn raddol
gynyddu, a cheir darpariaeth ar gyfer lefelau ffitrwydd
unigol gyda gwahanol deithiau yn dechrau ac yn gorffen
yn y man cychwyn canolog, Canolfan y Nova.
Mae'n hawdd cysylltu gyda mannau
cyfarfod teithiau eraill, gan fod nifer o deithiau "cysylltiol" diddorol
hefyd ar gael.
Y mae'r holl deithiau arfaethedig yn hawdd i'w dilyn,
ar y gwastad, ac yn ddiogel.
|