Lleoliad, Graig Park, Dyserth
Wedi ei leoli wrth droed Allt
Y Graig, gyda’r
Graig Fawr y tu cefn iddo, mae’n hawdd cyrraedd
teithiau cerdded o’r man yma, teithiau sy’n
dilyn lonydd gwledig gyda golygfeydd braf ar draws
amrywiol diroedd, rhai cymedrol a rhai sy’n
fwy anodd i’r sawl sy’n cerdded er mwyn
hybu iechyd.
O gadw ar y tir gwastad, ceir
lonydd gwledig a llwybrau marchogaeth, neu o ddringo
ychydig mae modd cerdded at y Rhodfa o Ddiserth
i Brestatyn, gyda llwybrau sy’n mynd trwy’r
coed ac ar hyd y bryniau lleol. Ceir golygfeydd
ardderchog o Eryri a Dyffryn Clwyd.
Teithiau cerdded gwledig hardd a hawdd cyrraedd atynt.
|